Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:
• Adolygu’r arian a ddarperir ar gyfer gwasanaethau bysiau gwledig i sicrhau bod gwasanaethau digonol ar gael ar gyfer Gwynedd yn ei chyfanrwydd, ond yn benodol ar gyfer de Meirionnydd.
• Ystyried rhoi sicrwydd bod arian ar gael i ddarparu ar gyfer gwasanaethau ychwanegol, er mwyn ei gwneud yn haws i gyrraedd gwasanaethau iechyd, addysg a chyflogaeth, ac i gefnogi economi a thwristiaeth yn yr ardal.
Prif ddeisebydd: Barbara Snowball
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 30 Ebrill 2013
Nifer y llofnodion : 174